Cyflwyniad

Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio pa gwynion y gallwn edrych arnynt. Mae hefyd eich cyfeirio at wybodaeth ynghylch sut y byddwn yn deilio â’ch cwyn.

 

Diwallu eich anghenion

Rydym am ei gwneud hi’n hawdd i bawb ddefnyddio ein gwasanaethau. Ni allwn eirioli ar eich rhan ond gallwn eich cyfeirio at sefydliad a allai helpu. Gallwn hefyd newid y ffordd rydym yn cyfathrebu â chi yn dibynnu ar eich anghenion. Rhowch wybod i ni beth yw eich anghenion, a gwnawn ein gorau i helpu. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut y gallwn eich cefnogi yma.

 

Yr hyn y gallwn ymchwilio iddo

Gallwn edrych ar gwynion am:

  • gofal sydd wedi’i hunan-ariannu – hynny yw, gwasanaethau a ddarperir gan gartref gofal i oedolion sy’n talu am eu gofal eu hunain. Gallwn ystyried materion yn ymwneud â gofal personol a gofal nyrsio
  • gofal cartref – hynny yw, lle mae pobl wedi prynu eu gofal personol a ddarperir yn eu cartref eu hunain
  • gwasanaethau gofal lliniarol annibynnol – gall hyn gynnwys gwasanaethau lliniarol cymunedol a hosbis. (Gallwn ond ystyried cwyn os yw’r gwasanaeth wedi derbyn arian cyhoeddus yn y tair blynedd cyn i’r mater sy’n destun cwyn godi.)

O bryd i’w gilydd, gall cwyn gynnwys mwy nag un sefydliad. Os ydych am gwyno am wasanaethau a ddarperir gan gorff cyhoeddus, yn ogystal â’r darparwr gofal annibynnol, megis y GIG yng Nghymru neu eich cyngor lleol, gallwn edrych ar y rhannau hyn o’ch cwyn hefyd.

 

Sut y byddwn yn deilio â’ch cwyn

Os byddwch yn cwyno i ni am ddarparwr gofal annibynnol, byddwn yn deilio â’ch cwyn yn yr un ffordd y byddwn yn delio â chwynion am unrhyw ddarparwr gwasanaeth arall. Mae canllaw manwl ar gael yma.