Dewis eich iaith
Cau

O 1 Tachwedd 2014, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ymestyn ein rôl mewn perthynas â chartrefi gofal, gwasanaethau gofal cartref a gofal lliniarol.

Bu modd ini erioed ystyried cwynion gan bobl pan drefnwyd eu gofal gan wasanaethau cyhoeddus (neu rywun ar eu rhan), er enghraifft mewn cartrefi gofal. Fodd bynnag, o fis Tachwedd 2014 ymlaen rydym hefyd yn gallu ystyried cwynion gan bobl sy’n trefnu ac yn ariannu eu gofal eu hunain.

Mae gwasanaethau gofal lliniarol annibynnol yn faes newydd o’n hawdurdodaeth. Er mwyn ini allu ystyried cwynion am wasanaeth o’r fath, rhaid i’r gwasanaeth fod wedi derbyn cyllid cyhoeddus (e.e. gan fwrdd iechyd neu gyngor) yn y tair blynedd cyn y mater y cwynir amdano.

Ceir mwy o wybodaeth am sut i gwyno am ddarparwyr gofal annibynnol yma.