Dyddiad yr Adroddiad

10/19/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeirnod Achos

202204333

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w gais i uwchgyfeirio ei gŵyn am Iechyd yr Amgylchedd i Gam 2 ei broses gwyno.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor, a chytunodd i ymateb i gŵyn Mr X erbyn 8 Tachwedd 2022. Cytunodd hefyd i ymddiheuro i Mr X am yr oedi a chyflwyno taliad amser a thrafferth o £50.
Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel dewis arall yn lle ymchwilio i’r gŵyn.