Dyddiad yr Adroddiad

10/20/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeirnod Achos

202204031

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi methu gweithredu ynghylch cymydog yn bwydo adar ar y stryd.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi derbyn pryderon Mr X, ond nid oedd wedi’i gofnodi fel cwyn ac felly ni ymchwiliwyd i’r gŵyn.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr X erbyn diwedd y mis calendr cyfredol ac i ymchwilio i’r materion a godwyd dan ei Broses Gwyno Gorfforaethol.