Dyddiad yr Adroddiad

10/12/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Pwnc

Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeirnod Achos

202203232

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X 10 mis ar ôl cyswllt cychwynnol â’r Cyngor, ei fod wedi cyhoeddi hysbysiad dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (“y Ddeddf”) yn uniongyrchol iddo ef pan ddylai fod wedi cael ei roi’n uniongyrchol i’w denant. Dywedwyd wrth Mr X nad oedd ganddo hawl i apelio.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cymryd amser hir i gyhoeddi’r hysbysiad gan adael Mr X mewn sefyllfa lle nad oedd yn gwybod pa gamau oedd ar gael iddo. Roedd hefyd yn bryderus bod yr ymateb i’r gŵyn yn ddryslyd ac nad oedd yn nodi’n ddigonol hawl ddeddfwriaethol y Cyngor yng nghyswllt cyflwyno hysbysiad i’r landlord dan y Ddeddf.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a chytunodd i gymryd y camau canlynol erbyn 24 Hydref 2022 fan bellaf: –
1. Cynnig ymddiheuriad am yr oedi sylweddol wrth gyfathrebu â Mr X.

2. Cynnig taliad amser a thrafferth o £100 i Mr X am yr oedi a’r dryswch a achoswyd iddo.

3. Dyrannu Swyddog Cyfreithiol i nodi’r sefyllfa ddeddfwriaethol i Mr X er mwyn cael gwared ag unrhyw ddryswch.