Dyddiad yr Adroddiad

09/16/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Ymdriniaeth â chais cynllunio (arall)

Cyfeirnod Achos

202102786

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am y ffordd y cafodd cais cynllunio ei drin gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot (“y Cyngor”) ar gyfer modurdy’n agos at ei chartref. Bu i asesiad yr Ombwdsmon nodi pryderon ynghylch y ffordd y cafodd y gŵyn ei datrys; y wybodaeth a roddwyd i Mrs X a’r anghyfleustra a achoswyd oherwydd camau gweithredu’r Cyngor.

O ganlyniad i’r pryderon a nodwyd, cytunodd y Cyngor i gyflawni’r hyn a ganlyn erbyn 15 Hydref 2021 i setlo cŵyn Mrs X:

• Darparu ymateb cŵyn cam 2
• Talu £100 i gydnabod yr anghyfleustra