Dyddiad yr Adroddiad

06/10/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Ymdrin â chwynion

Cyfeirnod Achos

202200124

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd wedi cael ymateb i gŵyn a godwyd ym mis Medi 2021.

Wrth ystyried y gŵyn hon, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chwblhau ei ymchwiliad yn unol â chanllawiau Gweithio i Wella .

Mae wedi cytuno i gwblhau’r mater a chyhoeddi ei ymateb erbyn 9 Gorffennaf 2022 fan bellaf. Roedd yr Ombwdsmon yn barod i dderbyn y datrysiad hwn fel ffordd arall o ymchwilio i’r gŵyn.