Dyddiad yr Adroddiad

11/14/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Ymdrin â chwynion

Cyfeirnod Achos

202203655

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B i’r Ombwdsmon am y ffordd roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi delio â gohebiaeth yn ymwneud ag ymchwiliad i farwolaeth ei mab. Roedd Ms B yn anhapus fod cyfarfod â Phaediatregydd ei mab wedi’i rwystro, ac a oedd wedi’u drefnu i roi tawelwch meddwl iddi. Roedd yn anhapus fod dwy rôl gyswllt ar wahân wedi’u cyflawni gan yr un unigolyn. Hefyd, roedd yn anhapus nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi’i diweddaru mewn modd priodol heb ddim eglurhad am oedi a chamgymeriadau gweinyddol, a oedd yn cynnwys llythyrau a anfonwyd i’w chyfeiriad blaenorol, neges(euon) e-bost yn cael eu hanfon mewn camgymeriad, ac yn hwyr yn y nos a sawl achlysur lle’r oedd ei henw wedi’i gamsillafu/camddefnyddio.
Canfu’r Ombwdsmon er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymddiheuro i Ms B ac wedi rhoi gwybod iddi am argymhellion y byddai’n eu gweithredu, roedd ymateb y Bwrdd Iechyd yn annigonol, o gofio nifer y camgymeriadau a’r enghreifftiau o gyfathrebu gwael.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro eto i Ms B, o fewn mis, gan gynnig iawndal o £500 i adlewyrchu’r trallod a’r amser a’r drafferth yr aeth iddo ac, o fewn chwe wythnos, cyflwyno copi o’r dystiolaeth berthnasol/cynllun gweithredu arfaethedig i’r Ombwdsmon i ddangos y camau sydd eisoes/sy’n mynd i gael eu cymryd i weithredu’r pwyntiau gwella a nodwyd yn ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn.