Dyddiad yr Adroddiad

03/01/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Pwnc

Y dreth cyngor

Cyfeirnod Achos

202107135

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am y ffordd y deliodd y Cyngor â’i gŵyn ynghylch atebolrwydd treth Cyngor. Dywedodd nad oedd wedi cael ei ystyried o dan bolisi cwynion ffurfiol y Cyngor.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ystyried y gŵyn o dan ei bolisi cwynion. Ceisiodd a chafodd gytundeb y Cyngor i wneud hynny ac ymateb i Mr X yn briodol.