Dyddiad yr Adroddiad

07/19/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Uniondeb

Cyfeirnod Achos

202102372

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Honnwyd bod Cynghorydd (“yr Aelod”) wedi datgelu gwybodaeth gyfrinachol ar Facebook pan rannodd wybodaeth am drafodaeth a gynhaliwyd mewn sesiwn cyngor preifat ac y gallai hyn fod yn gyfystyr â thorri’r Cod Ymddygiad.

Ystyriodd yr ymchwiliad paragraffau canlynol y Cod Ymddygiad:

  • 5(a) Rhaid i aelodau beidio â – datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth y byddai’n rhesymol ystyried ei bod o natur gyfrinachol, heb gydsyniad datganedig person a awdurdodwyd i roi cydsyniad o’r fath, neu onid yw’r gyfraith yn mynnu ei fod yn gwneud hynny;
  • 6(1)(a) Rhaid i aelodau beidio â – ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar [eich] swydd neu [ar eich] awdurdod;
  • 7(a) Rhaid i aelodau beidio â – yn [ei] gapasiti swyddogol neu fel arall, defnyddio neu geisio defnyddio [ei] safle yn amhriodol i roi neu i sicrhau mantais [i’w hun] neu i unrhyw berson arall, neu i greu neu i osgoi anfantais [i’w hun] neu i unrhyw berson arall.

Yn ystod yr ymchwiliad, ystyriwyd gwybodaeth gan y Cyngor Cymuned, gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd.  Cyfwelwyd â thystion hefyd.

Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod wedi postio sylw ar ei chyfrif Facebook personol.  Roedd cynnwys y sylwadau yn ymwneud â materion y Cyngor a’i rĂ´l o fewn y Cyngor.  Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod yr Aelod wedi rhoi’r argraff ei bod yn dibynnu ar ei statws fel aelod ac felly bod y Cod Ymddygiad yn chwarae rhan lawn mewn perthynas â’r sylw.

Canfu’r Ombwdsmon fod trafodaethau’r cyfarfod a chofnodion y cyfarfod yn gyfrinachol ac y gallai rhannu’r wybodaeth honno awgrymu toriad o baragraff 5(a) o’r Cod Ymddygiad.  Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon, yn ystod cyfarfod y Cyngor llawn a gynhaliwyd, rhannwyd rhywfaint o wybodaeth yn ystod elfen gyhoeddus y cyfarfod a’i bod wedi’i dogfennu yng nghofnodion y cyfarfod a rannwyd yn gyhoeddus.  Felly, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod tystiolaeth yn awgrymu bod paragraffau 6(1)(a) a 7(a) y Cod Ymddygiad wedi’u torri.  Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon, o ystyried y wybodaeth a oedd ar gael yn gyhoeddus, mai cyfyngedig oedd effaith sylwedd y sylw a oedd yn cael ei rannu.  Canfu’r Ombwdsmon nad oedd angen cymryd unrhyw gamau o dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.