Dyddiad yr Adroddiad

05/09/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Uniondeb

Cyfeirnod Achos

202004473

Canlyniad

Dim tystiolaeth o dorri’r Cod

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Gwynedd (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad pan rannodd ddeunydd ar ei gyfrif Facebook a oedd yn taflu amheuaeth ar fodolaeth COVID-19 ac am y brechlyn, a phan ymddangosodd ar sioe deledu i drafod ei farn am COVID-19 a’r brechlyn.

Adolygodd yr Ombwdsmon gweithgaredd Facebook yr Aelod ac ei ymddangosiad teledu.  Cyfwelwyd cyn Brîf Weithredwr y Cyngor a chafwyd sylwadau gan yr Aelod.

Canfu’r Ombwdsmon fod gan yr Aelod hawl i ryddid mynegiant ac i ddal a mynegi ei farn ynghylch pandemig COVID-19 a’r brechlyn COVID-19 (o dan Erthygl 10 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sydd wedi’i ymgorffori yng nghyfraith y DU gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998).  Roedd hawl yr Aelod i ryddid i lefaru yn caniatáu iddo ddweud pethau a allai fod yn frawychus neu’n sarhaus i rai pobl.  Roedd tystiolaeth y cyn Brîf Weithredwr yn awgrymu nad oedd yr Aelod yn cynrychioli ‘safbwynt y Cyngor’.  Ni roddodd yr Aelod gyfarwyddiadau i aelodau’r cyhoedd yn groes i’r mesurau iechyd cyhoeddus a oedd ar waith ar y pryd.  Felly, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.