Dyddiad yr Adroddiad

03/24/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Brymbo

Pwnc

COD - Uniondeb

Cyfeirnod Achos

202002929

Canlyniad

Adroddiad wedi’i gyfeirio at Bwyllgor Safonau

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn gan aelod o’r cyhoedd bod aelod o Gyngor Cymuned Brymbo a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi torri’r Cod ymddygiad (“y Cod”) pan wnaeth gŵyn ffug honedig am yr achwynydd i’r Heddlu, yn ymwneud â digwyddiad a ddigwyddodd ar fws.

Roedd yr Aelod wedi anfon e-bost at yr Heddlu gan ddatgan bod yr achwynydd wedi bod yn ymosodol iawn, a chredai fod ei hymddygiad yn gyfystyr â thorri heddwch neu drosedd trefn gyhoeddus.  Roedd hefyd yn bryderus am sylwadau personol a wnaed iddo gan yr achwynydd.   Awgrymodd iddo fod yn ddarostyngedig i gam-drin geiriol heb gyfiawnhad.

Cafodd yr Ombwdsmon wybodaeth gan yr Heddlu a lluniau teledu cylch cyfyng gan y cwmni bysiau.  Ar ôl ystyried y wybodaeth oedd ar gael, ni ystyriodd fod yr achwynydd yn ymddangos yn ymosodol fel yr awgrymodd yr Aelod, a chanfu fod y sylwadau a wnaed gan yr achwynydd yn ymwneud â materion a oedd yn hysbys i’r cyhoedd.  Ar sail y wybodaeth a oedd ar gael, ni ystyriodd y gellid yn rhesymol eu hystyried yn “gam-drin geiriol”.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod gohebiaeth yr Aelod i’r Heddlu yn gamarweiniol neu wedi ei gorliwio, a bod ei ymddygiad yn awgrymu torri paragraff 7(a) o’r Cod Ymddygiad.  Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad hefyd fod ceisio camddefnyddio ei swydd yn y modd hwn a chyhuddo rhywun ar gam o gyflawni trosedd trefn gyhoeddus yn gallu dwyn anfri ar swydd neu awdurdod yr Aelod a’i fod yn awgrymu torri paragraff 6(1)(a) y Cod Ymddygiad.

Felly, cyfeiriodd yr Ombwdsmon ei adroddiad at Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.

Penderfynodd y Pwyllgor Safonau fod yr Aelod wedi torri paragraffau 6(1)(a) a 7(a) o’r Cod a chafodd ei wahardd o’r ddau Gyngor am 3 mis.