Dyddiad yr Adroddiad

01/18/2022

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202004634

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr Y fod Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Practis”) wedi tynnu ei enw’n anghywir oddi ar ei restr o gleifion ddiwedd 2020. Dywedodd fod y Practis wedi methu â rhoi rhybudd ysgrifenedig iddo, wedi methu â rhoi rheswm iddo dros ei dynnu o’r rhestr o gleifion ac wedi methu â threfnu cyfarfod anffurfiol gydag ef i drafod penderfyniad y Practis.

Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd (Contractau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 (“y Rheoliadau”) yn amlinellu’r amgylchiadau lle gellir tynnu claf oddi ar restr o gleifion meddygon teulu. Canfu’r Ombwdsmon fod y penderfyniad i dynnu Mr Y oddi ar restr y Practis yn cyd-fynd â’r Rheoliadau, felly hefyd y penderfyniad i beidio â rhoi rheswm iddo dros y penderfyniad i’w dynnu. Fodd bynnag, dylai’r Practis fod wedi dogfennu datganiad o’r rhesymau dros dynnu Mr Y, y rhesymau pam y teimlai nad oedd yn briodol i reswm penodol gael ei roi i Mr Y, ei hysbysu ei fod yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr o gleifion ac egluro iddo nad oedd angen rhoi rhesymau penodol dros y penderfyniad. Roedd hyn yn gamweinyddu a achosodd anghyfiawnder i Mr Y gan fod y Practis wedi methu â’i hysbysu o’r penderfyniad i’w dynnu oddi ar ei restr o gleifion. O dan y Rheoliadau, nid oedd yn ofynnol i’r Practis drefnu cyfarfod anffurfiol gyda Mr Y. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn i’r graddau y dylai’r Practis fod wedi ysgrifennu at Mr Y i gadarnhau ei fod yn cael ei dynnu oddi ar ei restr o gleifion.

Cytunodd y Practis i ymddiheuro i Mr Y am beidio â’i hysbysu o’r penderfyniad i’w dynnu oddi ar ei restr o gleifion, i adolygu’r broses o gymhwyso’r Rheoliadau mewn perthynas â thynnu cleifion ac i adolygu ei bolisi tynnu.