Dyddiad yr Adroddiad

08/30/2022

Achos yn Erbyn

Practis Meddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202103441

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr A fod meddyg teulu (“y Meddyg Teulu”) yn y Feddygfa wedi methu ag archwilio ei frest yn ddigonol, trefnu unrhyw ymchwiliadau er mwyn gallu trin ei gyflwr, rhoi unrhyw gyngor iddo neu wneud diagnosis cywir o’r cyflwr ar 21 Rhagfyr 2020. Aeth Mr A i’r ysbyty yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw a chafodd ddiagnosis o emboli ysgyfeiniol (pibellau gwaed wedi’u rhwystro yn yr ysgyfaint) yn yr ysgyfaint a niwmonitis COVID-19 (ysgyfaint sydd wedi mynd yn llidus oherwydd COVID-19). Cwynodd Mr A hefyd fod ymateb y Feddygfa i’w gŵyn, am y gofal a gafodd ar 21 Rhagfyr, yn annigonol, yn anghywir ac wedi’i oedi’n ormodol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y meddyg teulu wedi asesu a thrin Mr A yn briodol ar 21 Rhagfyr. Ni chadarnhaodd y rhan gofal clinigol o gŵyn Mr A. Canfu’r Ombwdsmon fod ymateb cychwynnol y Feddygfa i gŵyn Mr A yn annigonol oherwydd ei fod yn cynnwys gwallau clinigol sylweddol. Roedd o’r farn bod y methiant hwnnw wedi achosi anghyfiawnder i Mr A ar ffurf ansicrwydd a gofid. I raddau cyfyngedig, cadarnhaodd yr agwedd ar gŵyn Mr A a oedd yn ymwneud â’r gŵyn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Feddygfa adolygu ei phroses gwyno i sicrhau bod yr holl wybodaeth glinigol berthnasol yn cael ei chasglu cyn iddi ymateb i gwynion am ofal clinigol. Wrth wneud yr argymhelliad hwnnw, cymerodd i ystyriaeth y camau yr oedd y Feddygfa eisoes wedi’u cymryd mewn ymateb i bryderon Mr A ynghylch ymdrin â’r gŵyn. Cytunodd y Feddygfa i weithredu’r argymhelliad hwn.