Dyddiad yr Adroddiad

08/10/2022

Achos yn Erbyn

Practis Meddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202201561

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod y Feddygfa wedi mynnu ei fod yn gwisgo gorchudd wyneb (mwgwd) cyn y byddai’n gallu cael ei weld yn y Feddygfa er bod Mr A wedi dweud ei fod wedi’i eithrio rhag gwisgo mwgwd gan ei fod yn awtistig. Dywedodd fod hyn wedi achosi pryder a gofid iddo. Roedd hefyd wedi arwain at beidio â gweld meddyg teulu na chael ei feddyginiaeth.

Wrth ystyried yr achos, nododd yr Ombwdsmon fod awtistiaeth yn rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac felly byddai Mr A yn gymwys o dan yr eithriadau rhag gwisgo gorchudd gwyneb a ragwelir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru (a gyhoeddwyd yn ystod pandemig COVID-19). Roedd ymateb y Feddygfa i gŵyn ffurfiol Mr A wedi dweud nad oedd eithriadau yn berthnasol mewn practisau meddygon teulu oherwydd bod risg uchel oherwydd y maeth o leoliad ydynt. Fel arall, dywedodd y Feddygfa fod Mr A wedi cael gwasanaeth a’i fod wedi cael y meddyginiaethau angenrheidiol.

Archwiliodd yr Ombwdsmon gofnodion clinigol Mr A a chanfu ei fod wedi cael ei weld yn bersonol, fwy nag unwaith, yn ystod y cyfnod dan sylw, yn ogystal ag ymgynghoriadau ar-lein. Roedd wedi cael presgripsiynau perthnasol. Fodd bynnag, er ei bod yn orfodol gwisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau gofal iechyd ar yr adeg y mae’r gŵyn yn cyfeirio ati, roedd canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi’n glir y gallai eithriadau fod yn berthnasol o hyd. Roedd yn ymddangos bod arfer y Feddygfa wedi bod yn gyfyngol yn hyn o beth. Roedd hyn wedi achosi trallod ac felly anghyfiawnder i Mr A pan oedd yn mynychu’r Feddygfa. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad llawn i’r gŵyn, cytunodd y Feddygfa wneud y canlynol o fewn 1 mis:
• Ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mr A eu bod wedi methu â chydnabod ei fod wedi’i eithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb, ac am y wybodaeth anghywir sydd wedi’i chynnwys yn ymateb y Feddygfa i’w gŵyn am eithriadau mewn lleoliadau gofal iechyd.
• Anfon nodyn atgoffa i staff y Feddygfa am ganllawiau Llywodraeth Cymru ar eithriadau – gan gynnwys y gallai pobl awtistig ac eraill nad yw eu cyflwr yn weladwy gael eu heithrio o hyd.