Dyddiad yr Adroddiad

08/15/2022

Achos yn Erbyn

Practis Meddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202202701

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X, er iddi godi ei phryderon gyda’r Feddygfa, ei bod yn dal i aros am ymateb terfynol er gwaethaf yr addewidion y byddai’n cael ymateb.

Gan fod yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Miss X wedi cael ymateb i’w phryderon eto, fe gysylltodd â’r Feddygfa. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Practis Meddyg Teulu i ymateb i bryderon Miss X erbyn 23 Awst 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i gŵyn Miss X.