Dyddiad yr Adroddiad

08/31/2022

Achos yn Erbyn

Practis Meddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202200229

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar ŵr ym mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021. Roedd hi’n anhapus ei fod wedi cael ei archwilio yn y maes parcio, na chafodd feddyginiaeth bellach ar bresgripsiwn nac iddo gael cynnig ocsigen ac na chafodd ei atgyfeirio i’r ysbyty. Ni dderbyniodd Mrs A yr esboniadau a ddarparwyd gan y Practis.

Canfu’r Ombwdsmon fod y gofal a ddarparwyd gan y Practis o fewn yr ystod o arfer clinigol priodol ar y pryd a bod yr esboniadau a roddwyd yn rhesymol. Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr A wedi’i wahodd i gael brechlyn niwmococol, brechlyn yr oedd ganddo hawl iddo oherwydd ei oedran a’i gyflyrau iechyd. Roedd yn ymddangos bod gan y Practis system ad hoc ar gyfer cynnig brechiadau o’r fath pan fyddai cleifion yn mynychu.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Practis y byddai, o fewn 20 diwrnod gwaith, yn ymddiheuro i Mrs A am ei fethiant i gynnig y brechiad niwmococol i Mr A ac adolygu gweithdrefnau’r Practis ar gyfer cynnig brechiad niwmococol i gleifion ac ystyried a yw’r dull yn un digonol, yn enwedig yn sgil y pandemig a bod llai o gysylltu wyneb yn wyneb yn digwydd â chleifion.