Dyddiad yr Adroddiad

11/09/2022

Achos yn Erbyn

Practis Meddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202104963

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms A am ei diagnosis a’i thriniaeth gan y Practis Meddyg Teulu pan oedd yn profi argyfwng iechyd meddwl. Bu’r ymchwiliad yn ystyried a oedd yr apwyntiadau a gynigiwyd iddi hi’n addas, a oedd y cyfathrebu rhwng y Practis a Ms A ynglŷn â’i cheisiadau am apwyntiadau’n briodol, a oedd y meddyginiaethau a ragnodwyd i Ms A yn briodol, ac a gafodd hi gymorth amserol gan y Practis yn achos ei chynllun i roi’r gorau i gymryd diazepam (meddyginiaeth a ddefnyddir i drin gorbryder ac aflonyddwch meddwl).

Canfu’r ymchwiliad fod Ms A wedi cael apwyntiadau’n unol â pholisïau’r Practis, a bod y cyfathrebu â Ms A ynglŷn â’i hapwyntiadau’n briodol. Canfu fod lleihau citalopram (meddyginiaeth a ddefnyddir i drin iselder) Ms A yn unol â’r canllaw perthnasol. Er bod y diazepam wedi’i ragnodi am gyfnod hwy na’r hyn sy’n cael ei argymell, gellid cyfiawnhau hyn o ystyried trallod Ms A tra’r roedd yn aros i gael ei gweld gan y gwasanaethau cymorth, a bod digon o wybodaeth wedi’i rhoi iddi am y posibilrwydd o gaethiwed i diazepam. Canfu’r ymchwiliad fod y cynllun i dynnu Ms A oddi ar diazepam hefyd wedi’i reoli’n briodol, ac felly ni chadarnhawyd ei chwynion.