Dyddiad yr Adroddiad

07/06/2022

Achos yn Erbyn

Practis Meddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202200632

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Practis wedi methu â newid ei feddyginiaeth lleddfu poen yn briodol yn unol â chyfarwyddiadau’r ysbyty a bod y Practis wedi methu â rhoi presgripsiwn iddo dro ar ôl tro.

Er bod y Practis wedi ymateb i bryderon Mr X, canfu’r Ombwdsmon ei fod wedi gwneud hynny ar lafar. Nid oedd y Practis wedi cynnig ei ymateb yn ysgrifenedig yn unol â’r polisi. Felly, cytunodd y Practis i gyhoeddi ymateb ysgrifenedig llawn i’r gŵyn erbyn 14 Gorffennaf 2022 fan bellaf.