Dyddiad yr Adroddiad

07/22/2022

Achos yn Erbyn

Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202202134

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am y gwasanaeth gwael a gafodd gan Feddygfa Meddygon Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Wrth wneud ymholiadau gyda’r Practis, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd wedi ymateb yn ffurfiol i gŵyn Ms X er iddi dderbyn cwyn ysgrifenedig ganddi. Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Practis wneud y canlynol i setlo’r gŵyn erbyn 22 Awst 2022:

a) Ymddiheuro i Ms X am fethu ag ymateb yn ffurfiol i’w chwyn

b) Rhoi ymateb ffurfiol i gŵyn Ms X yn rhoi sylw i’r materion a godwyd ganddi.