Dyddiad yr Adroddiad

02/24/2023

Achos yn Erbyn

Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202205022

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs X am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Bractis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn benodol, cwynodd Mrs X nad oedd y Practis Meddyg Teulu, rhwng 19 Ionawr a 2 Mawrth 2022, wedi cynnal ymchwiliadau priodol nac wedi gwneud atgyfeiriadau priodol mewn ymateb i’w symptomau a’i hanes fel claf. Cwynodd Mrs X fod hyn wedi arwain at oedi cyn gwneud diagnosis o’i hangen am lawdriniaeth gynaecolegol.

Canfu’r Ombwdsmon fod symptomau Mrs X yn gymhlethdod anarferol mewn cyflwr gynaecolegol. Daeth i’r casgliad bod y gofal a’r driniaeth a roddwyd i Mrs X yn glinigol briodol, gydag archwiliadau a phrofion gwaed addas wedi cael eu cynnal, a bod atgyfeiriad wedi’i wneud ar ôl i’w symptomau ddangos bod cyfiawnhad dros hynny.

Felly ni chafodd cwyn Mrs X am y Practis Meddyg Teulu ei chadarnhau.