Dyddiad yr Adroddiad

02/28/2023

Achos yn Erbyn

Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202206081

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs F wrth yr Ombwdsmon (drwy eiriolwr ei Chyngor Iechyd Cymuned) am gamau gweithredu’r meddyg teulu mewn perthynas â gwybodaeth anghywir yn ei chofnod meddygol. Roedd hi hefyd yn poeni am ganlyniadau profion, pelydr-x ac atgyfeiriadau, yn ogystal â gwallau gyda’i meddyginiaeth.

Canfu’r Ombwdsmon fod camau gweithredu’r meddyg teulu yn ddigonol o ran pryderon ynghylch canlyniadau profion, pelydr-x ac atgyfeiriadau. Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod y camau a gymerwyd gan y meddyg teulu i ddatrys gwallau gyda’i meddyginiaeth yn gymesur. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus, er bod camau i gywiro cofnod meddygol Mrs F yn parhau, a bod cyfarfod wedi’i gynnal ynghylch hyn, nad oedd yr anghywirdebau wedi eu datrys o hyd.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y meddyg teulu i adolygu cofnodion meddygol Mrs F i sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei chywiro, i roi’r cofnodion diwygiedig i Mrs F eu hadolygu ac, os oedd angen, i drefnu cyfarfod arall i drafod anghysondebau a nodwyd, o fewn 20 diwrnod gwaith.