Dyddiad yr Adroddiad

05/27/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Eraill

Cyfeirnod Achos

202108655

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am y gofal a ddarparwyd i’w mam ar gyfer ei hiechyd meddwl, yn benodol na ddarparwyd cydlynydd gofal, na chynigiwyd triniaeth briodol a bod ei meddyginiaeth wedi cael ei chamweinyddu. Dywedodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chyfathrebu’n effeithiol gyda hi a’i mam, ac wedi methu â rhoi sylw i’r pryderon a gododd gyda’r Gwasanaeth Cyswllt Cleifion (“PALS”).

Nododd yr Ombwdsmon yr ymdriniwyd â chwynion Miss A yn aml drwy PALS gan sicrhau bod apwyntiadau ac adolygiadau a addewir yn cael eu darparu, neu ofyn am alwadau ffôn yn ôl gan y maes gwasanaeth. Fodd bynnag, ni wnaeth y Bwrdd Iechyd gydnabod patrwm ei chwynion, a oedd i gyd yn debyg, yn gorgyffwrdd ac yn ymwneud â’r un materion dros gyfnod estynedig o amser. Canfu’r Ombwdsmon y dylid bod wedi edrych yn fanylach ar hyn ac y dylai cwynion Miss A fod wedi cael eu hystyried drwy broses gwynion ffurfiol y Bwrdd Iechyd i sicrhau bod pryderon Miss A yn cael y sylw priodol, a’i bod yn cael ei hysbysu o ganlyniadau unrhyw gamau a gymerwyd i roi sylw iddynt.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gysylltu â Miss A cyn pen 1 mis, i ymddiheuro na chafodd ei phryderon sylw, cadarnhau’r materion parhaus a oedd heb gael eu datrys, ac i ddechrau ymchwiliad ffurfiol iddynt. Cytunodd hefyd i gwblhau’r ymchwiliad i bryderon Miss A o fewn yr amserlenni perthnasol a nodir yn y broses gwynion ffurfiol.