Dyddiad yr Adroddiad

07/13/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Eraill

Cyfeirnod Achos

202201556

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A, drwy ei Heiriolwr yn y Cyngor Iechyd Cymuned, am y gofal a roddwyd i’w diweddar ŵr ychydig cyn iddo farw. Cwynodd Mrs A wrth y Bwrdd Iechyd ym mis Gorffennaf 2021 am y gofal a ddarparwyd yn gynharach y flwyddyn honno. Roedd Mrs A yn anfodlon ag ymateb y Bwrdd Iechyd, a ddarparwyd ym mis Hydref 2021, a nododd ei phryderon ychwanegol i’r Bwrdd Iechyd drwy ei Heiriolwr. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb pellach i’r pryderon hynny oedd heb eu datrys. Fodd bynnag, gan fod oedi ar ran y Bwrdd Iechyd wrth ddarparu’r ymateb pellach hwnnw, cwynodd Mrs A wrth y swyddfa hon.

Canfu’r asesiad fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu’r ymateb pellach y cytunwyd arno i Mrs A. Er mwyn datrys y gŵyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi’r ymateb i Mrs A i’w phryderon a oedd heb eu datrys o fewn 2 fis.