Dyddiad yr Adroddiad

06/10/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Eraill

Cyfeirnod Achos

202100211

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Roedd cwyn Ms X yn ymwneud â’r gofal a’r driniaeth a gafodd ar ôl i’r feddyginiaeth ar gyfer clefyd Crohn gael ei chynyddu yn 2015. Yn benodol, cwynodd Ms X fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â’i monitro’n briodol wrth iddi gymryd Humira (meddyginiaeth fiolegol, sydd wedi’i gwneud gyda phroteinau neu sylweddau eraill a gynhyrchir gan y corff, a oedd yn cael ei defnyddio i leihau llid drwy weithredu ar y system imiwnedd), nac adolygu’r feddyginiaeth o ran mai dyma achos posib ei symptomau newydd, ar ôl cynyddu’r dos. Cwynodd hefyd fod methiant i gymryd camau dilynol ynghylch ei chyflwr a oedd yn dirywio, er gwaethaf sawl cais ganddi i gael ei gweld gan ei Hymgynghorydd, a bod oedi wedi bod o ran cadarnhau bod ganddi lwpws wedi’i sbarduno gan gyffuriau (mae lwpws yn glefyd awto-imiwn lle mae system amddiffyn naturiol y corff yn ymosod ar rannau iach o’r corff ac yn achosi llid). Yn olaf, roedd Ms X yn poeni bod ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn yn cyfeirio’n anghywir at Erythematosws Lwpws Systemig (“SLE”) er nad oedd hi erioed wedi cael diagnosis o hyn.

Canfu’r ymchwiliad gan nad oedd diagnosis o lwpws wedi’i sbarduno gan gyffuriau wedi’i gadarnhau a’i fod yn annhebygol, nid oedd modd dod i’r casgliad bod oedi wedi bod yn y diagnosis hwn. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn hefyd nad oedd yn afresymol cyfeirio at SLE yn yr ymateb i’r gĹľyn fel rhan o ystyriaethau’r Bwrdd Iechyd ynghylch a oedd gan Ms X lwpws wedi’i sbarduno gan gyffuriau. O ganlyniad, ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r cwynion hyn.

Yn dilyn hyn, er na chafodd Humira ei ystyried yn wreiddiol fel achos posib i symptomau Ms X a chael ei stopio yn gynt, nid oedd hyn wedi achosi anghyfiawnder sylweddol gan ei bod yn annhebygol bod gan Ms X lwpws wedi’i sbarduno gan gyffuriau. Er hynny, roedd yn dangos diffyg ffordd gydgysylltiedig o ymdrin â gofal Ms X a chyfathrebu gwael rhwng y timau arbenigol a oedd yn gysylltiedig.

Ar y cyfan, canfu’r Ombwdsmon nad oedd Ms X wedi cael ei monitro na’i hadolygu’n ddigonol wrth iddi gymryd Humira dros gyfnod estynedig o amser, a oedd yn anghyfiawnder i Ms X ar adeg pan oedd yn poeni mwy a mwy am y symptomau roedd hi’n eu profi. Er na allai’r Ombwdsmon ddod i gasgliad penodol ynghylch pryderon Ms X ei bod wedi gofyn dro ar ôl tro i gael ei gweld gan ei Hymgynghorydd, roedd diffygion ehangach yn y cyfathrebu rhwng arbenigeddau a diffyg parhad yng ngofal Ms X wedi cyfrannu at y dryswch ynghylch pwy oedd i’w gweld ac ym mha ysbyty. Roedd hyn yn anghyfiawnder i Ms X gan ei bod yn teimlo nad oedd yn cael y cymorth roedd ei angen arni. Felly, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y cwynion hyn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd wneud y canlynol:

• Ymddiheuro i Ms X am y diffygion a nodwyd.
• Cynnig talu £500 iddi i gydnabod y trallod a achoswyd gan y diffygion.
• Bod yr adroddiad yn cael ei rannu â’r clinigwyr sy’n ymwneud â gofal Ms X er mwyn iddynt bwyso a mesur ei ganfyddiadau.

Ar ben hynny, o fewn 4 mis i’r adroddiad terfynol, argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd:

• Sicrhau bod prosesau adolygu ffurfiol ar gael ar gyfer cleifion sy’n cael triniaethau biolegol (fel Humira) o ran monitro eu cyflwr ac ar gyfer pan fydd presgripsiynau rheolaidd yn cael eu rhoi.
• Adolygu’r dull cyfathrebu rhwng y timau arbenigol sy’n rhan o’r gŵyn ac ystyried pa gamau y dylid eu rhoi ar waith i fodloni ei hun bod parhad gofal i gleifion pan fydd Ymgynghorwyr Meddygol Locum yn cael eu defnyddio’n rheolaidd.