Dyddiad yr Adroddiad

10/31/2022

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202108208

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Mr A wrth y Bwrdd Iechyd am y gwasanaeth a oedd yn cael ei ddarparu yn ei gangen leol o Bractis Deintyddol ar ôl i nifer o’i apwyntiadau gael eu canslo ar fyr rybudd neu heb rybudd. Dywedodd Mr A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu sicrhau bod y Practis Deintyddol yn rhoi sylw i’r materion a godwyd yn ei gŵyn am fynediad at wasanaethau. Cafodd ei symud yn afresymol wedyn fel claf oddi ar restr y Practis Deintyddol, ynghyd â’i wraig, am ei fod wedi cwyno.
Canfu’r ymchwiliad fod y Bwrdd Iechyd wedi methu sicrhau bod y Practis Deintyddol wedi ymateb i bryderon Mr A am fynediad at wasanaethau yn unol â Gweithdrefn Gwyno’r GIG. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi ceisio datrys y gŵyn drwy drefnu archwiliadau ar gyfer Mr a Mrs A, nid oedd wedi trosglwyddo’r gŵyn i’r Ombwdsmon i ymchwilio ac ymateb pan gafodd yr apwyntiadau hynny eu canslo wedi hynny. O’r herwydd, collodd y Practis Deintyddol gyfle i ddysgu o gŵyn Mr A a phrofiad gwael ei deulu o aros am ofal. Roedd y Bwrdd Iechyd hefyd wedi rhoi disgwyliad ffug y byddai’n helpu Mr a Mrs A i ddod o hyd i ddeintydd newydd pan gafodd ei dynnu oddi ar restr y Practis Deintyddol, er nad oedd hwn yn wasanaeth yr oedd yn ei ddarparu.
Methodd y Practis Deintyddol â dilyn canllawiau proffesiynol a’i bolisi ei hun wrth wneud y penderfyniad i dynnu Mr a Mrs A oddi ar y rhestr cleifion yn y Practis Deintyddol. Roedd diffyg tystiolaeth i gefnogi’r rhesymau a roddwyd dros y penderfyniad i symud Mr a Mrs A a methiant i’w rhybuddio cyn i’r gwasanaethau gael eu tynnu’n ôl.

Er mwyn setlo’r gŵyn, cytunodd y Gweinidog a’r Bwrdd Iechyd i ymddiheuro a thalu iawndal ariannol o £250 i Mr a Mrs A i gydnabod y methiannau, a’r amser, y drafferth a’r gofid diangen a achoswyd. Cytunodd y ddau sefydliad hefyd i rannu’r canfyddiadau gyda’r staff priodol er mwyn sicrhau eu bod yn dysgu yn sgil y gŵyn. Yn ogystal â hynny, cytunodd y Practis Deintyddol i gynnig cyfle i’r teulu gofrestru fel cleifion mewn practis deintyddol gwahanol ac i lunio cynllun gweithredu i atal y methiannau a nodwyd rhag digwydd eto.