Dyddiad yr Adroddiad

09/14/2022

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202203142

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio i’r pryderon ac ymateb iddynt. Nododd ymateb y Bwrdd Iechyd fod y Ddeintyddfa wedi ymddiheuro i Mr X, ond mae e’n honni nad ydynt wedi gwneud.

Ar ôl i swyddfa’r Ombwdsmon gysylltu â nhw, cytunodd y Ddeintyddfa, gan weithredu ar unwaith, ac ysgrifennu’n ffurfiol at Mr X er mwyn ymddiheuro yn uniongyrchol iddo.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod ymddiheuriad uniongyrchol wedi’i ddarparu ac felly datryswyd y gŵyn.