Dyddiad yr Adroddiad

11/04/2022

Achos yn Erbyn

Canolfan Ddeintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202204027

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs T am fod y Practis Deintyddol wedi ysgrifennu ati i’w hysbysu ei bod wedi ei thynnu oddi ar ei restr cleifion am ei bod wedi bod yn anghwrtais ac ymosodol. Hefyd cwynodd Mrs T er iddi ysgrifennu at y Practis i ofyn iddo ailystyried y penderfyniad, nid oedd wedi cael ymateb.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am nad oedd Mrs T wedi cael ymateb i’r pryderon a godwyd ganddi ac felly cysylltodd â’r Practis. Eglurodd y Practis fod ganddo’n awr Reolwr Practis newydd yn y Practis Deintyddol ac nad oedd hi wedi dechrau yn ei swydd pan dynnwyd Mrs T oddi ar y rhestr cleifion. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Practis i ymateb yn ysgrifenedig i gŵyn Mrs T a chynnig opsiynau iddi ynglŷn â pharhau i gael gofal deintyddol, o fewn 30 diwrnod gwaith.