Dyddiad yr Adroddiad

02/28/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202207364

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A ei bod ar restr aros am driniaeth ddeintyddol am dros ddwy flynedd gan fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi anfon ei hatgyfeiriad at y practis deintyddol anghywir. Dywedodd Ms A mai’r rheswm dros yr atgyfeiriad oedd bod ei dannedd wedi cael eu tynnu oherwydd cemotherapi. Dywedodd Ms A ei bod yn gaeth i’r tŷ oherwydd yr effaith ar ei hiechyd meddwl o ganlyniad i beidio â chael dannedd.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gysylltu â Ms A o fewn 10 diwrnod gwaith i sefydlu ei hanghenion deintyddol ac os oedd angen triniaeth flaenoriaethol arni.