Dyddiad yr Adroddiad

03/03/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202006430

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cyfeiriodd meddyg teulu Mr X ef at Ysbyty Glan Clwyd ar 29 Tachwedd 2019 a 26 Chwefror 2020 ar frys gyda symptomau sinws blewog. Aeth Mr X i adran Achosion Brys yr Ysbyty ar 22 Mehefin, gofynnwyd am sgan MRI, ond gadawodd Mr X cyn iddo gael ei ryddhau. Aeth Mr X i’r Uned Achosion Brys ar 25 Mehefin ond gadawodd heb gael ei weld. Ar 16 Gorffennaf cafodd Mr X sgan MRI ond ni chanfuwyd tystiolaeth o gasgliad ffocal, llid sylweddol, ffistwla nac annormaledd yn y pelfis. Ar 13 Awst aeth Mr X i’r adran Achosion Brys, gadawodd a llofnododd ffurflen i nodi ei fod wedi dewis peidio ag aros am ymgynghoriad, yn groes i gyngor nyrsio. Ceisiodd Mr X driniaeth breifat ac ar 23 Hydref cafodd sinws blewog Mr X ei wacáu. Cwynodd Mr X a oedd y sgan MRI 16 Gorffennaf wedi cael ei gofnodi’n gywir a’r effaith a gafodd hyn ar ei driniaeth ddilynol.
Canfu’r Ombwdsmon na ellid fod wedi rhagdybio’r canlyniadau pan adawodd Mr X yr adran Achosion Brys ar 25 Mehefin a 13 Awst, gan nad oedd wedi aros i gael ei weld. Canfu fod y sgan ar 16 Gorffennaf wedi ei gofnodi’n briodol ac yn gywir, ac nad oedd wedi effeithio ar ei driniaeth ddilynol. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.