Dyddiad yr Adroddiad

09/01/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202101729

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am oedi sylweddol ar ran y Bwrdd Iechyd i frechu ei mam, Mrs B, yn erbyn Covid-19, a’r effaith andwyol yr oedd hyn wedi’i chael ar Mrs B a’r teulu. Cwynodd Ms A hefyd am yr archwiliad annigonol a’r ymateb i’w chŵyn gan y Bwrdd Iechyd.

Nododd asesiad o’r gŵyn y pryderon canlynol. Mae’n ymddangos fel nad oedd mewnbwn y Gwasanaeth Nyrsio Ardal wedi cael ei geisio’n fewnol pan archwiliodd y Bwrdd Iechyd y gŵyn, wnaeth arwain at ymateb anghyflawn i’r gŵyn i Ms A. Bu i’r Bwrdd Iechyd gydnabod, oherwydd camgymeriad gweinyddol, fod brechiad Covid-19 Mrs B wedi cael ei ohirio’n sylweddol wnaeth arwain ati’n methu â gweld ei mab terfynol wael cyn iddo farw. Roedd methiant i uwchgyfeirio’n briodol pryderon Mrs A pan gododd nhw gyda’r Gwasanaeth Nyrsio Ardal (a’r feddygfa).

I ddatrys y gŵyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro’n ystyrlon i Ms A am y methiannau a nodwyd; i roi ymateb ysgrifenedig pellach i Ms A yn ceisio egluro beth ddigwyddodd yn yr achos hwn ar ôl cael mewnbwn y Gwasanaeth Nyrsio Ardal a’r feddygfa berthnasol, os oes angen; trefnu archwiliad mewnol i bennu sut ddigwyddodd y camgymeriad gweinyddol ac i ddysgu gwersi ac ystyried sut gellid gwella’r broses uwchgyfeirio. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyflawni’r camau gweithredu hyn o fewn 3 mis.