Dyddiad yr Adroddiad

03/17/2022

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202005993

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs G am ei thriniaeth ar gyfer canser yr ofari rhwng mis Chwefror a mis Hydref 2020, yn benodol:
• oedi wrth drafod ei phrognosis gyda hi ac wedyn methu trafod dewisiadau o ran triniaeth yn llawn
• gwybodaeth anghywir a roddwyd iddi ynghylch addasrwydd gwahanol gyffuriau
• llenwi a chyflwyno ffurflen Gais Cyllido Cleifion Annibynnol (“IPFR”).
Canfu’r Ombwdsmon fod yr apwyntiad cyn-cemotherapi a llenwi’r ffurflen ganiatâd yn gyfle a gollwyd i archwilio dealltwriaeth Mrs G o’i chyflwr a’i phrognosis. Canfu fod rhywfaint o gamgyfathrebu neu ddryswch wedi digwydd ynghylch addasrwydd gwahanol gyffuriau i Mrs G a’i bod wedi ei harwain at ddisgwyliadau afrealistig o’r driniaeth y gallai ei derbyn. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd digon o ystyriaeth wedi ei rhoi i gyflwyno’r IPFR gyda’r Ymgynghorydd, dim ond “copïo a gludo” gwybodaeth a ddarparwyd gan Mrs G, gan arwain at gais a oedd yn ddryslyd ac nid ar gyfer y feddyginiaeth fwyaf priodol. Dyfarnodd fod y gŵyn wedi ei chyfiawnhau.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod yr Ymddiriedolaeth yn ymddiheuro i Mrs G ac yn ystyried adolygu ei ffurflenni cydsynio i gemotherapi; gwahoddodd hefyd yr Ymgynghorydd i ystyried ei gyfathrebu â chleifion ynghylch prognosis.