Dyddiad yr Adroddiad

05/13/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202001022

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Dr C am y gofal a gafodd yn Ysbyty Llwynhelyg ar gyfer tynosynofitis/anhwylderau posib yn ei law (“compartment syndrome”) ar 20 Awst 2019 ac wedi hynny.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd unrhyw dystiolaeth bod Dr C wedi dioddef o anhwylder “compartment syndrome” a’i fod wedi cael triniaeth briodol, gyda lefel briodol o frys, ar gyfer tenosynovitis. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.