Dyddiad yr Adroddiad

10/18/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202004188

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms B am y gofal a dderbyniodd ei phartner, Mr L, pan aeth i’r ysbyty ddwywaith tuag at ddiwedd 2019, ar ôl cael ffitiau. Dywedodd fod oedi wedi bod cyn adnabod bod Mr L wedi torri ei ysgwydd a methiannau i wneud sganiau CT a lliniaru risg Mr L o gael niwed pe bai’n cael ffitiau pellach yn yr ysbyty. Dywedodd hefyd fod oedi wedi bod cyn trefnu apwyntiad Niwroleg i Mr L.

Casglodd yr Ombwdsmon fod yr asesiad o ysgwydd Mr L yn anfoddhaol, bod oedi wedi bod cyn cynhyrchu adroddiad pelydr-X yn adnabod y toriad i’w ysgwydd a bod gwaith papur gwael ar y pelydr-X yn awgrymu na chafodd ei adolygu’n briodol. Casglodd hefyd fod yr arhosiad o saith mis cyn i Mr L gael cynnig apwyntiad Niwroleg yn afresymol, yn enwedig yn niffyg unrhyw bwynt cyswllt hygyrch ar gyfer Mr L i helpu i sicrhau ei fod cael ei ddiweddaru’n rheolaidd ar y rhesymau dros yr oedi a sut i ofyn am gyngor yn y cyfamser. Er na chafodd yr oedi unrhyw effaith glinigol, roedd wedi gwaethygu gorbryder Mr L a Ms B am ei iechyd. Derbyniodd yr Ombwdsmon yr agweddau hyn ar y gŵyn.

Casglodd yr Ombwdsmon fod asesiad niwrolegol Mr L pan fynychodd yr ysbyty yn briodol a’i fod wedi cael ei atgyfeirio’n briodol at yr Adran Niwroleg. Er y dylai sgan CT fod wedi cael ei wneud yn syth, ni chafodd hyn effaith glinigol ar Mr L oherwydd roedd sgan CT a wnaed yn ddiweddarach yn normal. Casglodd hefyd fod rhagofalon priodol yn eu lle i leihau’r risg o niwed i Mr L pe bai wedi cael ffit arall yn yr ysbyty. Ni dderbyniodd yr Ombwdsmon y rhannau hyn o’r gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Ms B a Mr L a chynnig talu £750 i Mr L i gydnabod y diffygion yn ei achos, o fewn un mis. Cytunodd hefyd i sicrhau bod staff yn dysgu o’r canfyddiadau ac i adolygu’r broses o adrodd a chynhyrchu gwaith papur ar belydrau-X brys, o fewn tri mis. O fewn chwe mis, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd camau i sicrhau bod amserlenni priodol a chytunedig ar gyfer cynhyrchu adroddiadau pelydr-X yn cael eu cwrdd. Yn olaf, cytunodd i gymryd camau i sicrhau bod pwynt cyswllt hygyrch yn cael ei gynnig, gan gynnwys i gleifion a atgyfeiriwyd i’r Adran Niwroleg ond a fyddai’n wynebu oedi na ellid ei osgoi cyn gallu cynnig apwyntiad iddynt.