Dyddiad yr Adroddiad

09/29/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202002558

Canlyniad

Adroddiad Diddordeb Cyhoeddus

Cwynodd Ms B nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) wedi darparu gofal priodol i’w mab, Mr C. Yn benodol, cwynodd Ms B nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi gwasanaethau seicoleg priodol i Mr C, ac o ganlyniad, nid oedd wedi bodloni ei anghenion clinigol.

Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Ms B. Daeth i’r casgliad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau prydlon nac wedi rhoi trefniadau ar waith i fodloni anghenion clinigol Mr C yn dilyn cau gwasanaeth seicoleg. Er gwaethaf y Bwrdd Iechyd yn adnabod nad oedd anghenion Mr C yn cael ei fodloni, ni roddodd unrhyw gynllun ar waith i fodloni’r anghenion hynny. Daeth i’r casgliad na chafodd Ms B, fel prif ofalwr Mr C, ddigon o gefnogaeth i reoli ei ymddygiad heriol. Roedd hyn ar adeg pan roedd ymddygiad heriol Mr C yn waeth byth oherwydd effaith cyfyngiadau’r cyfnod clo COVID-19. Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth o gynllunio wrth gefn pe byddai’r gwasanaeth seicoleg yn dod i ben, gan olygu nad oedd y Bwrdd Iechyd na’r cleifion oedd yn derbyn y gwasanaeth yn barod iddo ddod i ben.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd cyfathrebu’r Bwrdd Iechyd gyda Ms B yn ddigonol, wnaeth olygu nad oedd ganddi ddigon o wybodaeth yn ystod y cyfnod clo COVID-19, pan roedd hi’n ei chael hi’n anodd ymdopi gydag ymddygiad heriol Mr C. Daeth i’r casgliad hefyd fod ymatebion y Bwrdd Iechyd i gwynion Ms B yn annigonol, ac yn groes i reoliadau perthnasol.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd:

(a) Roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms B am y methiannau clinigol, cyfathrebu a chwynion a nodwyd yn yr adroddiad hwn. Dylai’r ymddiheuriad gyfeirio at effaith y methiannau ar Mr C a’i deulu.

(b) Atgoffa’r staff perthnasol pa mor bwysig yw archwilio cwynion a chyflwyno atebion i gwynion yn unol â’r rheoliadau a chanllawiau cwynion perthnasol.

(c) Cynnal adolygiad i adnabod unrhyw gleifion eraill gydag anghenion clinigol heb eu bodloni o ganlyniad i gau’r Gwasanaeth Arbenigol, a sicrhau bod camau’n cael eu rhoi ar waith i fodloni anghenion y bobl hynny, un ai drwy’r Bwrdd Iechyd neu asiantaethau eraill.

(d) Comisiynu a chyflawni ei adolygiad cynlluniedig o wasanaethau seicoleg plant y Bwrdd Iechyd, a rhoi adborth i’r Ombwdsmon ar y canfyddiadau.