Dyddiad yr Adroddiad

06/14/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

201907531

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms M ar ran ei ffrind, Ms A, am y gofal a gafodd Ms A gan y Practis Meddyg Teulu a’r ymarferydd nyrsio ym mis Awst 2017. Nid oedd y Meddyg Teulu ychwaith wedi adolygu meddyginiaeth gwrth-seicotig Ms A. Yn achos y Bwrdd Iechyd, roedd pryderon Ms M yn ymwneud â gofal Ms A pan gafodd ei derbyn fel claf mewnol i Ysbyty Dyffryn Aman (“yr Ysbyty Cymunedol”). Cwynodd hefyd am ofal Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (“CMHT”) Ms A ar ôl iddi gael ei rhyddhau o’r ysbyty. Yn olaf, roedd Ms M yn anhapus â’r ffordd roedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â’i chŵyn.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y gofal a ddarparwyd gan y Practis Meddyg Teulu a’r Bwrdd Iechyd yn rhesymol ac yn briodol ac yn gydnaws â phractis clinigol cydnabyddedig. Ni chadarnhaodd yr agweddau hyn ar gŵyn Ms M. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn feirniadol o arafwch y Bwrdd Iechyd o ran delio â chŵyn Ms M a chadarnhaodd y rhan hon o’i chŵyn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Ms M am y methiant i ymateb i’w chŵyn gychwynnol a’r oedi a fu wedyn o ran delio â’r gŵyn.