Dyddiad yr Adroddiad

02/03/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202206433

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb iddi i’w chwyn ynghylch gofal a thriniaeth ysbyty ei diweddar dad.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod yn ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, a arweiniodd at Mrs X yn cysylltu â’r Ombwdsmon. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 8 wythnos, a dylai hefyd gynnwys ymddiheuriad am yr oedi a’r diffyg diweddariadau.