Dyddiad yr Adroddiad

11/23/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202105383

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs V am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w thad, Mr N, ar ôl iddo gael ei dderbyn i Ysbyty Tywysog Philip ar 1 Ebrill 2020, yn dilyn strôc, tan ei farwolaeth ar 29 Ebrill. Yn benodol, roedd Mrs V yn anhapus â’r cyfathrebu gwael a fu â hi a’i mam drwy gydol cyfnod Mr N yn yr ysbyty, yn enwedig amseriad amhriodol trafodaeth ar benderfyniad Na Cheisier Dadebru Cardioanadlol (“DNACPR”), diffyg cyfle i gyfrannu, a chofnodion, y tîm Gofal Lliniarol pan fu dirywiad yng nghyflwr Mr N, a sut y cafodd Mr N a’i deulu eu trin yn dilyn prawf COVID-19 positif.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y cyfathrebu rhwng staff, Mr N a’i deulu’n briodol, a hefyd amseriad y drafodaeth ar y penderfyniad DNACPR. O ran cyfraniad y tîm Gofal Lliniarol, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod eu cyfraniad wedi digwydd ar yr amser cywir a bod ei ddogfennaeth yn ddigon manwl. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon hefyd â’r ffordd y cafodd Mr N a’i deulu eu trin yn dilyn ei brawf COVID-19 positif.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.