Dyddiad yr Adroddiad

09/27/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202101855

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss B i’r Ombwdsman am wahanol agweddau gofal ei diweddar fam, Mrs M, tra roedd hi’n glaf yn Ysbyty Tywysog Phillip. Roedd ei phryderon yn cynnwys:
• Oediadau o ran asesiad a thriniaeth gychwynnol Mrs M, o ganlyniad i sampl prawf Covid-19 coll.
• Cael ei derbyn i ward oedd yn trin cleifion a oedd o dan amheuaeth eu bod nhw’n dioddef o Covid-19, er ei bod hi’n negyddol.
• Methiant i ymchwilio a thrin yr hyn a achosodd anaemia Mrs M.
• Rheolaeth rhyddhad Mrs M.
• Methiannau i gyfathrebu penderfyniadau clinigol sylweddol gyda’r teulu.

Canfu’r Ombwdsmon fod y gofal a ddarparwyd i Mrs M o safon briodol, gan ystyried bod y digwyddiadau o dan sylw wedi digwydd tra bod ysbytai yn profi pwysau anghyffredin o ganlyniad i’r pandemig Covid-19. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon fod methiannau sylweddol o ran y cyfathrebu â theulu Mrs M mewn perthynas â chyfathrebu’r Bwrdd Iechyd â theulu Mrs M. Er gwaethaf pwysau’r pandemig, mae’r Ombwdsman o’r farn bod y mwyafrif o’r methiannau hyn yn osgoadwy ac, o ganlyniad, cynhaliwyd yr elfen hon o’r gŵyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro am y methiannau cyfathrebu hyn ac yn talu £250 i Miss B o fewn 1 mis o ddyddiad yr adroddiad hwn.