Dyddiad yr Adroddiad

05/10/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202005891

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu â chynnal profion diagnostig priodol pan oedd ei mam wedi mynd i’r ysbyty amryw o weithiau ar ôl iddi gael trawiad ar y galon yn 2019.

Dywedodd Miss A fod y staff meddygol a oruchwyliodd ofal ei mam yn ystod y cyfnod hwn hefyd wedi gwrthod y dewis o lawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon. Roedd ei mam wedi cael ei harchwilio’n breifat a dywedodd fod y gweithiwr proffesiynol meddygol a oedd yn gyfrifol am ei hymgynghoriad wedi dweud wrthi y dylid ystyried llawdriniaeth ddargyfeirio’r galon.

Ystyriodd yr Ombwdsmon yr wybodaeth a oedd ar gael iddo ac roedd yn bryderus nad oedd yn ymddangos bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi cynnig o ail farn i fam Miss A. Felly, cysylltodd â’r Bwrdd Iechyd.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y canlynol:

1) Trefnu apwyntiad gydag un o’i Ymgynghorwyr, nad oedd ei mam wedi gweld o’r blaen.

2) Bydd yr Ymgynghorydd hwn yn rhoi ail farn ynghylch a yw llawdriniaeth ddargyfeiriol y galon yn opsiwn rhesymol ar gyfer cyflwr ei mam.

Cytunodd i drefnu apwyntiad i’w mam fynychu o fewn 12 wythnos i’r llythyr penderfyniad hwn a rhoi gwybod i’w mam am ddyddiad yr apwyntiad pan gaiff ei gadarnhau.