Dyddiad yr Adroddiad

02/06/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202206156

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr C nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi rhoi digon o sylw i’w bryderon am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w ddiweddar dad.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi ymateb i gŵyn, ei fod wedi oedi cyn cysylltu ymhellach â Mr C ynghylch ei bryderon oedd heb eu datrys. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr C. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr C a chyhoeddi ymateb pellach i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.