Dyddiad yr Adroddiad

01/12/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202205493

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs X am y ffaith fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi defnyddio cydran ar gyfer pen-glin coes dde newydd a hithau wedi cael pen-glin coes chwith newydd. Dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag egluro goblygiadau defnyddio prosthesis yr ochr anghywir.

Casglodd yr Ombwdsmon er bod y Bwrdd Iechyd wedi cyfaddef methiant yn ei weithdrefnau, nad oedd wedi egluro wrth Mrs X am unrhyw oblygiadau posib iddi, nac ychwaith pa ôl-ofal yr oedd yn bwriadu ei ddarparu i fonitro cyflwr clinigol Mrs X. Roedd y sefyllfa wedi arwain at straen i Mrs X a phoeni am yr ansicrwydd.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac mewn ymgais i ddatrys cwyn Mrs X fe gytunodd y Bwrdd, o fewn 20 diwrnod gwaith, i drefnu cyfarfod â Mrs X i’w chynorthwyo i ddeall y goblygiadau o brosthesis pen-glin wedi’i ffitio ar yr ochr anghywir ynghyd ag esboniad o’r math o ôl-ofal y byddai’n ei dderbyn i fonitro’r sefyllfa.