Dyddiad yr Adroddiad

10/14/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202203946

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr L ei fod yn anhapus â’r ymchwiliad i gwymp ei ddiweddar dad a gynhaliwyd gan y Bwrdd Iechyd. Cwynodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ei dad a oedd yn gwella ar adeg ei gwymp.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr L wedi cael ymateb llawn eto gan y Bwrdd Iechyd o dan y rheoliadau ‘Gweithio i Wella’ ac felly wedi cysylltu â’r Bwrdd Iechyd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai’n rhoi ymateb llawn i Mr L o fewn 14 diwrnod gwaith i lythyr penderfyniad yr Ombwdsmon. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i gŵyn Mr L.