Dyddiad yr Adroddiad

05/07/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202100259

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Roedd cwyn Mr X yn ymwneud â’r gofal a gafodd ei ddiweddar dad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”) ym mis Rhagfyr 2020. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r gŵyn gychwynnol a wnaed gan aelod o’r teulu ym mis Ionawr 2021, roedd yn dal yn anfodlon. Esboniodd i’r Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd wedi peri iddo ofyn mwy o gwestiynau. Amlinellodd y rhain mewn dogfen o’r enw ‘Pryderon yn ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro’.

Roedd yr Ombwdsmon wedi ystyried bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb ym mis Ebrill 2021 i’r gŵyn gychwynnol a godwyd gan aelod o deulu Mr X. Fodd bynnag, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y byddai’n ddefnyddiol i’r Bwrdd Iechyd gyflwyno ymateb ysgrifenedig ynglŷn â’r cwestiynau pellach a godwyd gan Mr X. Yn dilyn trafodaeth gyda’r Bwrdd Iechyd, cytunodd i wneud y canlynol i setlo’r gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb ysgrifenedig i Mr X i’r cwestiynau a amlinellwyd yn y ddogfen o’r enw ‘Pryderon Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro’ o fewn 30 diwrnod gwaith i’r dyddiad y bydd yr Ombwdsmon yn cyhoeddi ei benderfyniad.