Dyddiad yr Adroddiad

07/07/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202101577

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Roedd cwyn Mrs X yn ymwneud â’r gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar ŵr, Mr X, yn ystod ei dderbyn i Ysbyty Athrofaol Cymru ym mis Tachwedd 2020. Yn benodol, cwynodd Mrs X fod ffurflen Na Cheisier Dadebru Cardio-anadlol (“DNACPR”) yn cael ei rhoi’n amhriodol ar gofnodion ei gŵr yn groes i’w dymuniadau a heb ei chaniatâd. Cwynodd hefyd fod y penderfyniad i roi’r gorau i’w driniaeth weithredol, a’i symud i ofal diwedd oes, ar ôl dim ond 3 diwrnod o dderbyn ei gŵr i’r ysbyty, yn amhriodol ac yn gynamserol, a’u bod wedi rhoi gorddos o forffin iddo’n fwriadol er mwyn cyflymu ei farwolaeth. Dywedodd Mrs X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi digon o ystyriaeth i’w barn ynglŷn â’r penderfyniadau hyn. Yn olaf, cwynodd Mrs X hefyd na chafodd ei gŵr ei ryddhau o’r ysbyty er mwyn rhoi cyfle iddo farw’n heddychlon yn ei gartref gofal a bod Tîm Profedigaeth y Bwrdd Iechyd ond wedi cysylltu â hi sawl mis ar ôl ei farwolaeth.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod penderfyniad DNACPR wedi’i wneud yn briodol a bod y penderfyniad i newid i ofal diwedd oes ar 23 Tachwedd yn un rhesymol oherwydd, yn anffodus, roedd cyflwr Mr X wedi dirywio er ei fod wedi cael triniaeth briodol ar gyfer niwmonitis COVID-19. Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod y meddyginiaethau, gan gynnwys morffin, a roddwyd ar bresgripsiwn i Mr X wedyn, yn briodol a bod lefel briodol o gyfathrebu wedi bod gyda Mrs X mewn perthynas â’r penderfyniadau hyn. Hefyd, roedd yr Ombwdsmon o’r farn na fyddai wedi bod yn bosib i Mr X gael ei ryddhau’n ôl i’w gartref gofal oherwydd cyflymder ei ddirywiad ac yng nghyd-destun y pandemig COVID-19. O ganlyniad, ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r cwynion hyn. Fodd bynnag, cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs X yn ymwneud â’r Tîm Profedigaeth gan fod y Bwrdd Iechyd wedi derbyn y dylai’r gwasanaeth cymorth profedigaeth a sefydlwyd yn ystod y pandemig fod wedi cysylltu â Mrs X yn gynharach o lawer na mis Ebrill 2021. Eglurodd y Bwrdd Iechyd fod materion staffio wedi golygu nad oedd y gwasanaeth cymorth wedi gallu cwrdd â’i amserlen arferol o gysylltu ag aelodau o’r teulu a rhoddodd wybodaeth i’r Ombwdsmon am ganran yr achosion a oedd bellach yn cwrdd â’r amserlenni perthnasol. Gan fod y Bwrdd Iechyd eisoes wedi rhoi ymddiheuriad i Mrs X ac esboniad am yr oedi hwn, ni wnaeth yr Ombwdsmon unrhyw argymhellion pellach.