Dyddiad yr Adroddiad

07/27/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202202124

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w chwyn ynglŷn â’r gofal a roddwyd iddi yn ystod ei beichiogrwydd a’r genedigaeth. Roedd hi wedi gwneud y gŵyn ym mis Rhagfyr 2021.

Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb ysgrifenedig i Ms X eto. Felly, gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd gwblhau’r canlynol er mwyn setlo cwyn Ms X:

Erbyn 2 Medi 2022

a) Ymddiheuro i Ms X am yr oedi sylweddol wrth ymateb i’w chwyn

b) Rhoi ymateb ysgrifenedig i gŵyn Ms X.

27 Gorffennaf 2022