Dyddiad yr Adroddiad

06/23/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202107999

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar bartner pan gafodd ei dderbyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn dioddef o COVID-19 difrifol ym mis Rhagfyr 2020. Cwynodd hefyd nad oedd wedi derbyn copi o’r Adroddiad Adolygu Marwolaethau ac nad oedd cyfarfod wedi’i drefnu i’w drafod.

Nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn ei bod yn rhesymol defnyddio disgresiwn wrth ystyried bod y gŵyn wedi pasio terfynau amser. Ond, penderfynodd setlo’r materion eraill.

Gofynnodd a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu’r dogfennau sy’n weddill ac i drefnu cyfarfod o fewn pythefnos i gyhoeddi’r penderfyniad.