Dyddiad yr Adroddiad

05/18/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202108158

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ystyried yn briodol ei phryderon ynglŷn â meddyginiaeth a roddwyd ar bresgripsiwn i’w Modryb, Mrs C, pan gafodd ei derbyn i’r ysbyty ym mis Ebrill 2020. Rhoddwyd morffin ar bresgripsiwn i Mrs C ei bod ganddi alergedd iddo, ynghyd â thawelydd. Gofynnodd Mrs B a oedd hyn yn briodol ac ystyried bod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (“yr MHRA”) yn argymell bod yn eithriadol o ofalus wrth presgripsiynu’r mathau hynny o feddyginiaeth gyda’i gilydd.

Canfu’r Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn wallus ac yn anghyson. Dywedai nad oedd alergedd Mrs C i forffin wedi cael ei nodi ond roedd yna dystiolaeth ei fod wedi cael ei nodi gan un o’r Nyrsys Brysbennu. Dywedai hefyd i ddechrau na roddwyd morffin i Mrs C, ond yn ddiweddarach roedd yn cadarnhau y rhoddwyd 2 ddogn o Oramorph (morffin hylifol) heb ddim effaith niweidiol. Hefyd, ni chafwyd ymateb i’r pryder y gallai’r presgripsiynau fod wedi mynd yn groes i ganllawiau’r MHRA.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs B cyn pen 1 mis i ymddiheuro am y trefniadau gwael ar gyfer delio â chwynion, cynnig £250 am ei hamser a’i thrafferth yn mynd ar drywydd y gŵyn a rhoi iddi sicrhad bod gwersi wedi cael eu dysgu. Cytunodd hefyd i roi sylw’n benodol i’r gwrthddywediadau yn yr ymateb i’r gŵyn yn ogystal ag i oblygiadau clinigol a pherthnasedd canllawiau presgripsiynu’r MHRA a’r 2 ddogn o Oramorph a roddwyd i Mrs C er bod ganddi alergedd i forffin.