Dyddiad yr Adroddiad

02/02/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202205970

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhoi ymateb iddi i gŵyn a wnaeth ym mis Gorffennaf 2022.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod gan y Bwrdd Iechyd o ran ymateb i’r gŵyn, a bod hyn wedi achosi anhwylustod a rhwystredigaeth i Mrs C. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu’n uniongyrchol at Mrs C o fewn 30 diwrnod gwaith i ymddiheuro am yr oedi a’r methiant i’w diweddaru, i roi diweddariad ystyrlon ac i gynnig taliad o £50 i gydnabod y methiannau hyn.