Dyddiad yr Adroddiad

02/14/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202108294

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss X am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei phartner, Mr Y, gan yr Adran Gastroenteroleg yn Ysbyty Glan Clwyd rhwng 2019 a 2021. Roedd hyn yn cynnwys yn benodol a oedd cyswllt yr adran â Mr Y yn ystod y cyfnod yn ddigonol, a fyddai Mr Y wedi elwa o gael ei atgyfeirio at arbenigwyr, a oedd meddyginiaeth a ragnodwyd i Mr Y yn briodol ac a ddylai fod wedi cael triniaeth ar gyfer ei anhunedd. Cwynodd Miss X hefyd am y driniaeth a gafodd Mr Y pan aeth i’r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd ar 14 Hydref 2021.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr Y wedi cael digon o gyswllt gan yr Adran Gastroenteroleg yn ystod cyfnod y gŵyn. Fodd bynnag, roedd methiannau o ran cyfathrebu, a arweiniodd at bryder a rhwystredigaeth i Miss X a Mr Y, ac felly cafodd yr elfen hon o’r gŵyn ei chadarnhau. Canfuwyd y dylai Mr Y fod wedi cael ei atgyfeirio am sganiau, ac at arbenigwr iau yn gynharach. Fodd bynnag, nid oedd y methiannau hyn wedi achosi anghyfiawnder clinigol i Mr Y ac felly ni chafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau. Canfu’r ymchwiliad fod meddyginiaeth a ragnodwyd i Mr Y yn briodol. Canfuwyd hefyd y dylai Mr Y fod wedi cael ei gynghori i siarad â’i feddyg teulu am ei symptomau o anhunedd a chafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau’n rhannol. Canfu’r ymchwiliad nad oedd unrhyw ddiffygion mewn gofal pan aeth Mr Y i’r Adran Achosion Brys.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Miss X a Mr Y am y methiannau a nodwyd, i rannu’r adroddiad â chlinigwyr perthnasol a’u hatgoffa o bwysigrwydd cyfathrebu’n glir â chleifion, ac o bwysigrwydd cynghori cleifion ynghylch lle gallant gael gafael ar gymorth y tu allan i’w maes arbenigedd.